Treuddyn

Treuddyn
Canol y pentref
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,687 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.116°N 3.118°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000210 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ252583 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJack Sargeant (Llafur)
AS/auMark Tami (Llafur)
Map

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Treuddyn[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif fymryn oddi ar y briffordd A5104 i'r de o'r Wyddgrug. Cyfeirnod OS: SJ252583. Hen enw'r pentref oedd 'Tryddyn'.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Coed-talon, ychydig i'r dwyrain. Ceir nifer o hynafiaethau yn y gymuned, yn cynnwys carneddi o Oes yr Efydd.

Mae'r eglwys, sy'n gysegredig i'r Santes Fair, yn sefyll ar safle eglwys hynafol. Codwyd yr eglwys newydd yn 1875 a dim ond darnau gwydr ffenestr lliw o'r 14g sy'n weddill o'r hen eglwys. Ond mae'r llan o gwmpas yr eglwys, darn o dir dyrchafedig o ffurf grwn, yn hen.[3] Cyfeiria Gwyddoniadur Cymru at faen hir ym mynwent yr eglwys, ond does dim sôn am hynny yn yr arolwg o'r safle gan CPAT (Ymddiriedolaeth Archaeoleg Clwyd-Powys).[3]

Ar un adeg roedd cryn dipyn o ddiwydiant yn yr ardal, gyda chloddio am lo, haearn a phlwm. Roedd distyllfa yma i ennill olew o'r glo, ac roedd ffwrnais chwyth yma o 1817 hyd 1865. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,567.

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 12 Ionawr 2022
  3. 3.0 3.1 "CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-13. Cyrchwyd 2009-07-27.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search